Clociau yn canu am yr amser
CLOC 1 & 2 Faint o’r gloch ydy hi?
CLOC 3 Mae hi’n saith o’r gloch.
Mae hi’n wyth o’r gloch.
Mae hi’n naw o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser ysgol.
Mae hi’n amser ysgol.
Hwrê!
CLOC 2 & 3 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 1 Mae hi’n ddeg o’r gloch.
Mae hi’n unarddeg o’r gloch.
Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser cinio.
Mae hi’n amser cinio.
Iym iym!
CLOC 3 & 1 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 2 Mae hi’n un o’r gloch.
Mae hi’n ddau o’r gloch.
Mae hi’n dri o’r gloch.
O, mae hi’n hanner awr wedi tri.
CLOCIAU Mae hi’n amser mynd adre.
Mae hi’n amser mynd adre.
Ieeeeeei!
Mae hi’n bedwar o’r gloch.
Mae hi’n bump o’r gloch.
Mae hi’n chwech o’r gloch.
Mae hi’n saith o’r gloch.
Amser gwely bawb. Nos da.
Aaaaa! Mae hi’n amser codi eto!