ELIN Bore da, bore da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
BANANA Dw i’n hapus, diolch. Dw i’n hapus a blasus a melys.
Whiiiii!
ELIN Bore da, bore da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
SIOCLED Dw i wedi blino. Dw i wedi blino, dw i wedi blino’n lân.
Whiiii…
ELIN O p’nawn da, O p’nawn da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
DYMI SUR Dw i’n drist.
ELIN O, na!
DYMI SUR Dw i’n drist, mae fy ffrindiau wedi mynd… Aaaargh…
ELIN Sut wyt ti rŵan?
DYMI SUR Dw i’n drist iawn. Dw i eisiau crio.
POPCORN Hei, paid crio,
Ie, paid ypsetio!
Dere i joio,
Gyda ni!
Dy ffrindie newydd di!
DYMI/POPCORN Whiiiii! Hi hi hi hi hi!
ELIN O p’nawn da, o p’nawn da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
P’nawn da.