Stori Deio

Mae’r ffilm hon yn trafod marwolaeth rhiant ac awgrymwn fod athro yn ei gwylio cyn ei dangos i ddisgyblion.

Crynodeb o’r ffilm

Mae Deio wedi colli ei fam a bellach yn byw gyda’i nain. Ers y golled, mae Deio yn ei chael hi’n anodd bwyta bwydydd sy’n ei atgoffa o’i fam, ac mae’n troi at fwydydd ‘llwyd’ yn lle. A fydd yn cario ymlaen i osgoi bwydydd iach ei nain, neu’n llwyddo i fwyta bwydydd lliwgar fel roedd ei fam yn arfer eu paratoi?

Nodiadau athrawon

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

  • Ditectif bwyd – Gellid creu cylch mawr gyda’r saith grŵp (carbohydradau, proteinau, fitaminau, braster, mineralau, ffibrau a dŵr) a gofyn i’r disgyblion ddarganfod lluniau o fwyd o amgylch y dosbarth/mewn cylchgronau a’u rhoi yn yr adran gywir ee tatws yn yr ardal ‘carbohydradau’ er mwyn creu ‘collage’ fel dosbarth. Gallai’r disgyblion ymchwilio i ba grwpiau bwyd sy’n perthyn i bob categori ar-lein.

Mae bwyty newydd yn dod i’r ardal ac mae angen creu bwydlen newydd ar ei gyfer.

Her 1: Gallai’r disgyblion greu bwydlen iach gan edrych ar wahanol gostau a chofnodi eu data ar ffurf tabl electronig.

Pris cynhwysionPris y prydElw
Pasta carbonaraBacwn £1.50 · Caws parmesan £2.00 · Wyau £0.25 · Pasta ffres £1.00£15£10.25

Her 2: Y disgyblion i ddylunio bwydlen naill ai â llaw neu’n ddigidol, a’r dosbarth i ddewis y fwydlen orau yn seiliedig ar ba mor ddeniadol mae’n edrych!

Gellid gofyn i’r disgyblion ysgrifennu darn barn ar y thema ‘bwyd iach neu sothach’ yn amlinellu eu dadleuon, y rhesymau dros eu safbwyntiau a chasgliad i gloi.

Dyma rai ymadroddion defnyddiol y gellid eu rhoi fel sbardun i ddisgyblion:

Yn fy marn i…
Ar un llaw… ar y llaw arall…
Mae ymchwil yn dangos bod…
Mae modd dadlau…
I gloi…

  • Blodyn targedau – Gall bob disgybl greu blodyn fel yr isod, a gosod targedau ar bob petal ee siarad gyda ffrind, tynnu llun o atgof hapus, creu llyfryn lluniau, rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Ar ôl cwblhau’r dasg, gall y disgyblion liwio’r petalau i mewn.
  • Bywyd Deio – Mae’r ffilm yn trafod newidiadau sylweddol ym mywyd Deio ers colli ei fam ee byw gyda ei nain a’i berthynas gyda bwyd. Gellir gofyn i’r disgyblion feddwl am sut mae Deio yn teimlo ar ddechrau’r ffilm – anobeithiol, wedi diflasu gyda bwyd ei nain, trist ayyb.

Yna, gellir gofyn iddynt greu delweddau i gynrychioli pethau y gall eu gwneud i’w wneud i deimlo’n hapus ar ffurf jig-so ee bwyta’n iach, treulio amser gyda ffrindiau, gwrando ar gerddoriaeth a chwaraeon. Yna, gallai’r dosbarth drafod sut fyddai Deio yn teimlo ar ôl gwneud y pethau yma – bodlon, hapus, iach ac ati.

Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:

  • Ysgrifennu ymson – Gellir gofyn i’r disgyblion ysgrifennu ymson ar gyfer cymeriad Deio. Mae’r ffilm yn amlinellu’r newidiadau sydd wedi digwydd yn ei fywyd a'r effaith mae hyn wedi ei gael ar ei deimladau, felly gellir gosod tasg i ddisgyblion ysgrifennu ymson gan eu hannog i ddefnyddio:

    • Berfau yn y person cyntaf ee gwelais, teimlais, gwaeddais
    • Cwestiynau rhethregol ee Pam bod Nain yn mynnu coginio bwyd lliwgar? Pam na allaf i stopio teimlo’n grac?
    • Defnyddio’r synhwyrau – sut mae Deio yn teimlo? Beth mae Deio’n ei weld? Beth mae’n ei flasu?

Neu, gallai disgyblion ysgrifennu ymson am newid mawr sydd wedi digwydd yn eu bywydau eu hunain a sut wnaeth hyn iddyn nhw deimlo.

  • Mae’r trosiad “i lenwi dy blât gyda llawenydd” yn cael ei ddefnyddio yn y gerdd i gyfleu cariad ei nain tuag at Deio. Gallai’r disgyblion greu llun o blât o gariad a’i lenwi gyda delweddau/symbolau/geirfa sy’n cyfleu cariad yn eu barn nhw. A all y disgyblion feddwl am drosiadau eraill am gariad?

Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm

  • Pwysigrwydd dysgu am fwydydd iach
  • Deall beth yw bwydydd sy’n ffres a bwydydd sydd wedi eu prosesu
  • Dysgu am bwysigrwydd a swyddogaethau elfennau yn ein bwydydd: carbohydradau, proteinau, fitaminau, braster, mineralau, ffibrau a dŵr
  • Cynnwys a allai beri gofid: Dysgu mwy am golled a galar

Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu hunanreoleiddio fy emosiynau mewn ffordd ddiogel gan ddefnyddio strategaethau rwyf wedi eu datblygu.

  • Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.

  • Rwy’n gallu gofyn am gymorth gan bobl rwy’n ymddiried ynddyn nhw pan rwyf ei angen.

  • Rwy’n gallu myfyrio ar y ffordd y mae digwyddiadau a phrofiadau yn y gorffennol wedi effeithio ar fy meddyliau, fy nheimladau a’m gweithredoedd.

Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu egluro pwysigrwydd deiet cytbwys a maeth, a’r effaith mae fy newisiadau yn eu cael ar fy iechyd a lles corfforol. Rwy’n gallu cynllunio a pharatoi prydau maethlon, sylfaenol.

Maes Dysgu a Phrofiad – Mathemateg a Rhifedd

Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n gallu casglu a threfnu data er mwyn gofyn ac ateb cwestiynau mewn sefyllfaoedd perthnasol.

Maes Dysgu a Phrofiad – Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n gallu creu fy nyluniadau fy hun, ac rwy’n gallu gweithio ar y cyd gydag eraill i ddatblygu syniadau creadigol.
Back to top

Ble nesa?

Stori Fleur. video

Mae'r pwysau i chwarae pêl-droed yn gwasgu ar Fleur ac mae'n penderfynu dianc ar ddiwrnod y twrnamaint. A ddylai hi drafod ei theimladau gyda rhywun?

Stori Fleur

Stori Geth. video

Pan mae capten y tîm pêl-droed yn cynnig diod a allai wella ei berfformiad i Geth, mae'n ei dderbyn yn syth. Er nad yw'n hoff o'r ddiod, mae'n prynu mwy a mwy i ffitio i mewn, nes bod pethau'n ffrwydro.

Stori Geth

Stori Llio. video

Mae Llio yn ofalwr ifanc i'w thad, heb lawer o amser i'w hun. A fydd Llio yn penderfynu derbyn cymorth?

Stori Llio
Back to top