Trefn y dydd
BETHAN Beth wyt ti’n wneud bob dydd Llun, Charlie?
CHARLIE Yn y bore, dw i’n codi.
Dw i’n gwisgo.
Dw i’n brwshio fy nannedd
a dw i’n ymolchi.
BETHAN Pry…
CHARLIE Dw i’n bwyta fy mrecwast.
Dw i’n mynd i’r tŷ bach. A dw i’n golchi fy nwylo.
BETHAN Pry…
CHARLIE Yna dw i’n mynd i’r ysgol.
Ar ôl cinio, mae hi’n amser chwarae a dw i’n chwarae gyda fy ffrindiau.
BETHAN Gyda phwy wyt ti’n chwarae?
CHARLIE Dw i’n chwarae gyda fy ffrindiau gorau, Anna a Rhys.
Yn y p’nawn dw i’n dod adre o’r ysgol a dw i’n canu’r piano.
BETHAN Pry…
CHARLIE Gyda’r nos, dw i’n gwylio’r teledu a dw i’n darllen llyfr.
BETHAN Pryd wyt ti’n mynd a Gel am dro?
CHARLIE Ahh, dw i’n mynd a Gel am dro cyn mynd i’r gwely. Dere Gel!
Ble nesaf?
Dyddiau'r wythnos
Dyddiau'r wythnos

Clociau yn canu am yr amser
Cloc ac amser

Mwy o fideos Cymraeg
Cyfnod Sylfaen
