Beth yw mudo?

Mudo yw symudiad pobl o un lle i'r llall. Mudwyr yw’r gair am y bobl hyn. Byddan nhw’n symud i dref neu ddinas arall, neu hyd yn oed i wlad arall.
Pam fod pobl yn mudo?
Mae yna lawer o resymau pam mae pobl yn dewis mudo. Efallai y byddan nhw'n symud i gael:
- gwell addysg ac ysgolion
- mwy o gyfleoedd gwaith
- hinsawdd gwell
- ardal fwy diogel i fyw

Enghreifftiau o fudo
Symudodd nifer fawr o bobl o un lle i'r llall i ddod o hyd i waith yn ystod y chwyldro diwydiannolCyfnod o amser yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif lle symudodd y DU i ddod yn wlad llawer mwy diwydiannol gan ddibynnu mwy ar beiriannau a’r defnydd o lo ac olew. Fe wnaethon nhw symud o gefn gwlad i ddinasoedd fel Manceinion a oedd yn tyfu’n gyflym ac i ardaloedd diwydiannol yng Nghymru.
O ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen dechreuodd Eidalwyr, a oedd wedi mudo i Gymru i chwilio am fywyd gwell, agor caffis, siopau hufen iâ a siopau pysgod a sglodion. Mae llawer o'r rhain i'w gweld hyd heddiw.
Daeth mudwyr o'r Caribî i Brydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod prinder gweithwyr. Empire Windrush oedd y llong fawr gyntaf i ddod â phobl o Jamaica yn 1948. Cymerodd llawer ohonyn nhw swyddi ar y systemau trafnidiaeth. Aeth y merched hefyd i weithio fel nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol newydd.
Fideo - Mudo a ffoaduriaid
Mudwr yw rhywun sy’n symud o un lle i le arall. Digon syml, meddet ti. Wel, mae pobl yn mudo am sawl rheswm - addysg well, swyddi gwell, tywydd gwell, hyd yn oed.
Ond ffoadur yw mudwr sy’n gorfod gadael eu cartref oherwydd rhywbeth sydd wedi digwydd yno. Gall fod yn drychineb naturiol fel daeargryn, ond fel arfer rhyfel yw'r rheswm.
Yn Syria, yn 2011, dechreuodd rhyfel cartref - rhyfel ble mae pobol o’r un wlad yn ymladd ei gilydd. Roedd rhaid i filiynau o Syriaid adael eu cartrefi. Daeth tua 20,000 o’r ffoaduriaid i’r Deyrnas Unedig, a rhai i Gymru.
Yn y dyfodol, efallai bydd newid hinsawdd yn creu ffoaduriaid sy'n dianc rhag effeithiau cynhesu byd-eang, fel sychder a lefel y môr yn codi.
Mae rhai pobl yn croesawu mudwyr oherwydd beth sydd gyda nhw i'w gynnig. Maen nhw wedi cyflwyno sawl peth sydd nawr yn rhan o’n diwylliant ni. Mae gan Gymru hanes hir o gaffis Eidalaidd a gafodd eu hagor gan fudwyr a ddaeth yma yn edrych am fywyd gwell.
Yn anffodus, dydy mudwyr ddim yn cael croeso gan bawb. Dydy pawb ddim yn eu gweld nhw fel pobl sy’n gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas. Edrycha o dy gwmpas i weld beth mae mudwyr wedi rhoi i dy gymuned di. Falle dy fod ti’n fudwr dy hun. Falle bod dy ffrind gorau’n un. Mae pobl sy’n dod o rywle pell yn gallu ymddangos yn wahanol iawn. Ond, dwyt ti ddim yn meddwl eu bod nhw eisiau’r un peth â phawb arall? Ydyn nhw wir mor wahanol â hynny wedi’r cwbl?
Ffoaduriaid
Mae ffoaduriaid yn fudwyr sy'n cael eu gorfodi i adael eu cartrefi. Mae'n rhaid iddyn nhw ffoi oherwydd:
- trychinebau naturiol
- diffyg bwyd a newyn
- rhyfel a gwrthdaro
Fel arfer mae'n rhaid i ffoaduriaid adael y rhan fwyaf o'u pethau ar ôl - eu ffrindiau, eu heiddo a phopeth sy'n annwyl iddyn nhw - ond maen nhw'n gwneud hynny, er mwyn bod yn ddiogel.
Bydd rhai ffoaduriaid yn mynd i wersylloedd ffoaduriaid mewn ardal neu wlad sy’n agos at lle maen nhw’n byw. Yn y pen draw mae rhai yn symud i wledydd newydd ac anghyfarwydd lle dydyn nhw ddim yn cael eu derbyn gan bawb. Mae rhai yn eu barnu am eu bod nhw’n ymddangos yn wahanol neu'n ofnus.
Ffoaduriaid o Syria

Yn 2011, fe ddechreuodd rhyfel cartref yn Syria, pan ddechreuodd pobl y wlad ymladd yn erbyn ei gilydd. Roedd y wlad yn lle peryglus iawn i fyw. Mae miliynau o Syriaid wedi cael eu gorfodi i symud - i ran arall o Syria neu i'r gwledydd sydd nesaf ati.
Ym mis Mawrth 2023 dywedodd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig fod 14 miliwn o Syriaid wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi. Mae llawer ohonyn nhw mewn gwledydd cyfagos fel Twrci, Gwlad yr Iorddonen, Libanus, Irac a’r Aifft.
Mae'r ffoaduriaid yn wynebu llawer o broblemau. Mae’r amodau byw yn wael yn y gwersylloedd ffoaduriaid gorlawn a dydyn nhw ddim yn gwybod pryd y gallan nhw fynd yn ôl i Syria.

Sut gallwn ni helpu ffoaduriaid?
Mae ffoaduriaid yn cyrraedd y DU bob blwyddyn. Er nad yw pawb yn hapus i’w gweld nhw, mae pobl eraill yn eu croesawu ac maen nhw'n gweld y mwyafrif o ffoaduriaid fel pobl gyffredin, sydd angen help a chefnogaeth. Maen nhw’n ceisio eu helpu mewn sawl ffordd fel:
- rhoi i elusennau sy'n darparu cymorth i bobl a gwledydd mewn angen
- rhoi croeso i ffoaduriaid trwy siarad â nhw, neu gynnig cefnogaeth
- rhoi eitemau fel dillad, teganau a llyfrau i siopau elusennol sy'n helpu ffoaduriaid
Gweithgareddau
1. Tasg ysgrifennu creadigol
Cofnod dyddiadur
Dychmyga dy fod yn ffoadur. Ysgrifenna gofnod dyddiadur yn disgrifio sut rwyt ti wedi gorfod gadael dy wlad dy hun oherwydd perygl i ti a dy deulu. Canolbwyntia ar dy daith i gartref newydd, neu dy brofiadau ar ôl i ti gyrraedd.
Dylai dy waith:
- gael ei ysgrifennu yn y person cyntaf, ac yn yr amser gorffennol
- defnyddio iaith anffurfiol a naturiol, fel petaet ti yn siarad â dy ddyddiadur
- cynnwys ansoddeiriau sy'n disgrifio dy deimladau
- disgrifio digwyddiadau allweddol sy'n cael effaith ar dy fywyd
2. Dewis pum eitem
Pe bai'n rhaid i ti adael dy gartref yfory, a dy fod ond yn cael pacio pum eitem, beth fyddet ti'n ei ddewis, a pham?
3. Cwis: Mudo a ffoaduriaid
More on Daearyddiaeth
Find out more by working through a topic
- count1 of 6
- count2 of 6
- count3 of 6
- count4 of 6