Cadw’n heini a darganfod anifeiliaid
RHYS Hei Anna, beth am fynd am dro yn y goedwig?
ANNA Na. Dw i ddim eisiau.
RHYS Tyrd! Mae cerdded yn dda i gadw’n heini.
ANNA Dw i ddim eisiau cadw’n heini.
RHYS Mae cadw’n heini’n dda i ti! Tyrd!
Hei, beth am neidio fel broga?
ANNA Iawn.
RHYS Dyna ffordd dda o gadw’n heini!
ANNA Mae’n hwyl!
RHYS Edrycha! Aderyn!
Beth am hedfan fel aderyn?
ANNA Iawn.
RHYS Dyna ffordd wych o gadw’n heini!
Mae’n rhaid i ti hedfan yn uwch!
O diâr!
Edrycha! Gafr! Beth am redeg fel gafr?
ANNA Iawn. Syniad da.
RHYS Dyna ffordd dda o gadw’n heini.
ANNA Dw i’n mwynhau cadw’n heini nawr!
RHYS Rheda’n gyflymach!
Gofalus! Pwll dŵr!
Edrycha! Mochyn! Beth am rowlio fel mochyn?
ANNA Iawn. Dyna ffordd wych o gadw’n heini!
RHYS Rowlia yn ôl ac ymlaen! Rowlia yn ôl ac ymlaen!
Gofalus! Mwd!
Wps!
Tyrd yn ôl i’r gwersyll.
ANNA Beth sy wedi digwydd i fi? Dw i’n edrych yn ofnadwy!
RHYS Ti wedi dychryn Gel druan!