Stori Amber

Crynodeb o’r ffilm

Mae’r ffilm hon yn trafod cymeriad Amber, disgybl ym mlwyddyn 6 sy’n ddihyder ac yn bryderus am lawer o bethau. Yn y ffilm, mae Amber ar fin mynd ar drip gwersylla gyda’r ysgol, a fydd yn golygu cymryd rhan mewn gweithgareddau, megis wal ddringo, a chwrdd â phobl newydd. Mae’n poeni am sawl peth am y trip ac mae’r ffilm yn cyfleu sut mae’n teimlo am yr heriau, a sut mae’n dysgu i ddelio gyda sefyllfaoedd newydd.

Nodiadau athrawon

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

  • Jar positifrwydd i ddathlu caredigrwydd a llwyddiannau’r disgyblion. Os yw disgybl neu athro yn gweld person arall yn gwneud rhywbeth cadarnhaol – gellir eu hannog i nodi hyn ar ddarn o bapur a’i roi mewn jar ee Gwelais i Tom yn tacluso'r iard/Gwelais i Meg yn helpu plentyn arall. Gellid darllen y darnau o bapur ar ddiwedd y dydd i ddathlu positifrwydd yn y dosbarth.

  • Meddylfryd sefydlog/meddylfryd twf: Gallai’r disgyblion weithio mewn grwpiau i newid geirfa sy’n adlewyrchu ‘meddylfryd sefydlog’ i ‘feddylfryd twf’ er mwyn creu brawddegau cadarnhaol, ee

Meddylfryd sefydlogMeddylfryd twf
Mae'n ddigon daGallaf wneud hyn hyd yn oed yn well
Dw’i am roi’r gorau iddiDw’i am roi cynnig ar ffordd arall
Dwi’n rhy swil i siarad yn y dosbarthGydag amser ac ymarfer, gallaf fod yn fwy hyderus
Dwi’n teimlo’n swil pan dwi’n gwneud camgymeriadMae pawb yn gwneud camgymeriadau

Gall y disgyblion naill ai ddyfeisio eu parau eu hunain o frawddegau, neu adnabod pa ‘feddylfryd sefydlog’ sy’n cyd-fynd gyda’r ‘meddylfryd twf’ uchod.

  • Chwarae rôl: Gallai’r disgyblion weithio mewn grwpiau o 4 i weithio ar wahanol senarios ee
    • Mae Sam yn hunan-ymwybodol oherwydd ei fod gymaint yn dalach na phawb arall yn ei dîm pêl-droed
    • Mae ffrindiau Ela yn ei gadael hi allan o’r gêm ac yn eistedd ar ei phen ei hun
    • Mae Idris yn berson pryderus, ac yn ei chael hi’n anodd cymysgu gyda phlant eraill
    • Mae Charlie yn casáu rhedeg ac yn teimlo’n swil mewn gwersi chwaraeon

Gellir rhoi cymeriad yr un i bob disgybl yn y grŵp a gofyn iddyn nhw feddwl am deimladau’r person hwnnw a’u nodi ar ddarn o bapur, neu eu dweud ar lafar. Yna, gallai gweddill y grŵp feddwl am gyngor i’w roi i’r cymeriad er mwyn cynnal trafodaeth ar deimladau a sut i oroesi heriau ee gyda phwy y gallan nhw siarad? Beth fyddai’r disgyblion yn ei wneud yn sefyllfaoedd eu cymeriadau? Gallai hyn arwain at weithgaredd yn gofyn i ddisgyblion greu poster gyda delweddau a geiriau defnyddiol fel cyngor i’w cymeriadau.

  • Olwyn eiriau: Gellir rhoi geiriau cadarnhaol ar olwyn sy’n troi ee

trefnus, uchelgeisiol, ysbrydoledig, caredig, gofalgar

a gofyn i’r disgyblion ei throi a cheisio rhoi'r gair maen nhw’n ei derbyn mewn brawddeg ee rwy'n teimlo'n drefnus heddiw oherwydd fy mod wedi pacio fy mag ysgol. Yna, gall y disgyblion roi'r frawddeg mewn blwch hunan-barch arbennig.

Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:

  • Gall y disgyblion edrych ar ymadroddion pwysig o’r gerdd ar ôl gwylio’r fideo sy’n cyfleu teimladau Amber ee “cydnabod dy bryder”/ “drwy fentro mae modd i ti gyrraedd y copa” / “peidio gadael i’r nos dreiddio mewn i dy dydd”. Gellir gofyn i’r disgyblion greu lluniau i gyd-fynd gyda’r ymadroddion ee llun o ddydd a nos.

  • Gellir gofyn i ddisgyblion greu cerddi acrostig gyda themâu sy’n ymwneud â’r gerdd ee dewrder, cryfder a hyder i adlewyrchu eu teimladau eu hunain.

Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm

  • Dysgu mwy am ddatblygu hunanhyder, sgiliau cymdeithasol a chylch o ffrindiau
  • Datblygu gwybodaeth am newidiadau – i’r corff, hormonau, emosiynau a phontio i’r ysgol uwchradd
  • Datblygu strategaethau meddwlgarwch ac ar gyfer adnabod cryfderau
  • Dysgu sut i ddathlu llwyddiannau a chymryd cyfrifoldeb

Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu hunanreoleiddio fy emosiynau mewn ffordd ddiogel gan ddefnyddio strategaethau rwyf wedi eu datblygu.

  • Rwy’n gallu adnabod manteision fy mod yn gallu canolbwyntio ar yr hyn rwy’n ei ganfod a’i feddwl ac rwy’n gwybod fy mod yn datblygu fy hunanymwybyddiaeth.

  • Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.

Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu adnabod y bydd rhai penderfyniadau rwy’n eu gwneud yn cael effaith hirdymor ar fy mywyd ac ar fywydau pobl eraill.

  • Rwy’n gallu deall y gall penderfyniadau gael eu gwneud yn unigol ac ar y cyd, ac y gall ystod o ffactorau ddylanwadu arnyn nhw.

Maes Dysgu a Phrofiad – Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae mynegi eich hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Cam Cynnydd 1

  • Rwy’n gallu cyfathrebu gan wneud marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu addasu a thrin iaith a gwneud dewisiadau priodol ynghylch geirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac eglur.
Back to top

Ble nesa?

Stori Deio. video

Ers colli ei fam, mae Deio yn ei chael hi'n anodd bwyta'r bwyd y mae ei nain yn ei baratoi iddo. A fydd Deio'n gallu rhoi'r gorau i fwyta 'bwyd llwyd' a mwynhau'r atgofion o goginio gyda'i fam?

Stori Deio

Stori Fleur. video

Mae'r pwysau i chwarae pêl-droed yn gwasgu ar Fleur ac mae'n penderfynu dianc ar ddiwrnod y twrnamaint. A ddylai hi drafod ei theimladau gyda rhywun?

Stori Fleur

Stori Geth. video

Pan mae capten y tîm pêl-droed yn cynnig diod a allai wella ei berfformiad i Geth, mae'n ei dderbyn yn syth. Er nad yw'n hoff o'r ddiod, mae'n prynu mwy a mwy i ffitio i mewn, nes bod pethau'n ffrwydro.

Stori Geth
Back to top