Diweddarwyd: 20 Gorffennaf 2017
Dim ond os ydych chi eisiau gwneud unrhyw beth cyhoeddus ar wefan neu ap y BBC y bydd angen enw arddangos arnoch chi (er enghraifft, i roi sylwadau ar stori newyddion y BBC). Neu i fewngofnodi i iPlayer ar eich teledu.
I greu eich enw arddangos:
- Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif BBC.
- Yna, ar unrhyw un o wefannau’r BBC, cliciwch ar yr eicon “Eich cyfrif” ar ben y dudalen. Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.
- Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.
- Ar y dudalen “Manylion personol” chwiliwch am “Enw arddangos”. Os nad ydych wedi dewis enw arddangos yn barod, bydd yn dweud “Dim un wedi’i ddewis” oddi tano. (Ond os ydych chi wedi dewis un, bydd i’w weld fan hyn ac ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth). Cliciwch ar “Ychwanegu” i’r dde ohono.
- Ar y dudalen nesaf “Golygu enw arddangos”, rhowch eich enw arddangos newydd. Cofiwch glicio ar “Cadw a bwrw ymlaen” pan fyddwch wedi gorffen.
- Yna bydd yn gofyn i chi gadarnhau eich e-bost/enw defnyddiwr a'ch cyfrinair er mwyn gwneud yn siŵr mai chi sydd yno mewn gwirionedd.
Cofiwch, os ydych o dan 13 oed, bydd angen i riant neu warcheidwad gymeradwyo eich enw arddangos cyn y gallwch ei ddefnyddio. Gallwch weld sut i gael eu caniatâd fan hyn, neu ddarllenwch beth yw’r gwahaniaeth rhwng enw defnyddiwr ac enw arddangos?