
Cyflwyniad
Mae traethau Cymru yn llawn bywyd. Mae amrywiaeth o greaduriaid môr i’w cael ar hyd y glannau ac mae pyllau creigiog yn gallu bod yn dwyllodrus iawn.

Efallai eu bod yn edrych fel lleoedd tawel, ond mewn gwirionedd, maen nhw’n fwrlwm o fywyd. Maen nhw’n gynefinoedd, neu gartrefi perffaith i lawer o wahanol anifeiliaid.
Beth am gymryd golwg agosach

Dere i ddysgu mwy am yr anifeiliaid sydd yn byw yn y pwll.
Seren fôr bigog

Y seren fôr bigog yw prif ysglyfaethwr y pwll. Mae hyn yn golygu ei bod ar ben y gadwyn fwyd. ‘Does dim un anifail arall yn y pwll yn ei hela er mwyn ei fwyta. Mae’n bwyta cregyn gleision, cregyn bylchog a mathau eraill o bysgod cregyn sydd yn byw mewn pyllau creigiog. Mae’n defnyddio ei synnwyr arogli cryf i ddod o hyd iddyn nhw.
Oeddet ti'n gwybod?
- Mae’r sêr môr pigog wedi byw ar y Ddaear ers 450 miliwn o flynyddoedd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi bod yma ers cyn y dinosoriaid.
- Mae gan y seren fôr bump o freichiau ac mae cannoedd o draed o dan bob un. Mae gan bob troed sugnydd er mwyn gorfodi’r pysgod cregyn i agor. Mae’r seren fôr wedyn yn ymestyn ei stumog allan o’i cheg ac yn gorchuddio ei hysglyfaeth.
Y llyfrothen gyffredin (blenni)

Mae’r llyfrothen gyffredin i'w gweld mewn pyllau creigiog a dŵr bas yn aml. Mae’n anodd sylwi arnyn nhw weithiau gan eu bod yn cuddio o dan gerrig neu wymon. Mae gan y y llyfrothen groen brith hefyd sydd yn golygu bod ganddi guddliw perffaith.
Oeddet ti’n gwybod?
- Mae gan y pysgodyn yma bŵer arbennig. Mae’n gallu byw hyd yn oed pan mae’r pwll creigiog yn sychu. Mae’r rhan fwyaf o bysgod angen dŵr i allu byw. Ond mae’r llyfrothen yn gallu anadlu drwy ei chroen ond ei bod yn cadw’n llaith.
- Bydd yn ofalus - mae’r pysgod yma’n gallu cnoi.
Corgimwch cyffredin

Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae’r corgimwch cyffredin i’w weld yn y rhan fwyaf o byllau creigiog ac mewn dŵr bas o gwmpas Cymru. Ond mae’n gallu bod yn anodd sylwi arnyn nhw am eu bod yn gallu symud mor sydyn.Mae’r corgimwch cyffredin yn bwyta unrhyw beth mae'n gallu dod o hyd iddo yn y pwll, o bysgod cregyn i wymon sydd yn pydru.
Oeddet ti’n gwybod?
- Mae corgimychiaid yn gweithio gyda’i gilydd yn aml i hela eu hysglyfaeth.
- Mae corgimychiaid yn cario eu hwyau o amgylch eu coesau, yn aml yn cario cymaint â 4,000.
Mae pyllau creigiog yn gynefin sydd yn newid o hyd.

Wrth i’r Lleuad symud o amgylch y Ddaear mae’n gwneud i’r môr godi a disgyn. Mae hyn yn digwydd ddwywaith y dydd. Llanw a thrai yw’r termau rydyn ni yn eu defnyddio i ddisgrifio’r symudiad hwn. A’r symudiad hwn sydd yn gwneud i’r môr symud i fyny ac i lawr y traeth.

Mae’r newid yn y llanw a thrai yn golygu bod pyllau creigiog yn newid ac esblygu drwy’r amser. Wrth i’r llanw fynd allan mae’r pyllau creigiog yn sychu ac wrth i’r llanw ddod yn ôl i mewn maen nhw’n llenwi gyda dŵr môr. Mae hyn yn creu byd sydd yn newid drwy’r adeg.
Fideo: Llawn bywyd a drama
Dysga am y gwahanol fathau o anifeiliaid sy'n byw ym mhyllau creigiau ar y traethau yng Nghymru.
Cwis: Pa anifeiliaid sy’n byw mewn pyllau glan môr?
Gweithgaredd
Alli di ymchwilio a dysgu mwy am y llanw? Galli di ddefnyddio amserlen o dy ddewis di, neu dyma linc i amserlen llanw ar y we (cyfrwng Saesneg).
Edrycha ar yr amserlen yn ofalus a chreu adroddiad. Dyma rai pwyntiau i ti eu hystyried.
- Alli di weld patrwm?
- Alli di ragweld pryd fydd y llanw’n uchel neu’n isel?
- Faint o amser sydd yna rhwng y llanw uchel a’r llanw isel?
- Ydy’r patrwm yn newid?
- Pryd fyddai’r amser gorau i ymweld â dy draeth lleol i edrych ar byllau creigiog?

Ble nesa?
Beth yw’r mamal mwyaf sy’n cyrraedd ein traethau?
Oeddet ti'n gwybod mai dim ond 500 o forloi oedd yn y Deyrnas Unedig gyfan ychydig dros 100 mlynedd yn ôl?

Sut mae rhai anifeiliaid y môr yn llwyddo i osgoi ysglyfaethwyr?
Dysga sut mae anifeiliaid yn defnyddio cuddliw i guddio rhag yr ysglyfaethwyr yn nyfnderoedd y Môr Celtaidd.

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Bywyd gwyllt
Find out more by working through a topic
- count1 of 5