
Cyflwyniad
Mae mamal yn anifail gwaed cynnes sydd ag asgwrn cefn. Mae’n geni ei rai bach ac yn eu bwydo â llaeth. Yn union fel ni, rydyn ni’n famaliaid hefyd.
Wyt ti erioed wedi edrych allan ar y môr ac wedi meddwl tybed pa blanhigion a chreaduriaid rhyfedd sy’n llechu dan y dŵr a’r tonnau? Ym Mhrydain, mae amrywiaeth enfawr o fywyd morol. Bywyd morol yw’r enw am y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yn y môr.

O dan y tonnau
Wyt ti erioed wedi bod yn ddigon ffodus i weld creaduriaid arbennig sy’n byw yn y môr? Beth am gwrdd â rhai o’r creaduriaid morol sydd i’w gweld o gwmpas Ynysoedd Prydain.
Yr octopws

Mae gan yr octopws wyth braich hir, corff crwn a llygaid mawr chwyddedig. Mae’n aelod o deulu’r molwsgAnifail meddal heb asgwrn cefn. Mae malwod a gwlithod hefyd yn rhan o deulu’r molwsg. Dydy e ddim yn famal. Mae’r octopws yn cael blas ar ei fwyd ac mae wrth ei fodd yn bwyta crancod, berdys (shrimps) a chimychiaid. Mae’n ymlusgo’n fedrus ar hyd gwely’r môr ac yn gwthio ei freichiau i mewn i agoriadau bach, ac yna’n defnyddio’r sugnwyr ar hyd ei freichiau i dynnu ei ysglyfaeth i mewn i’w geg.
Y siarc glas

Mae’r siarc glas yn hoffi ymweld â’n dyfroedd yn ystod misoedd yr haf pan fydd y dŵr ychydig yn gynhesach. Mae’n greadur trawiadol gyda chorff glas metelig llyfn, sy’n rhoi cuddliw perffaith iddo, a thrwyn hir siâp côn. Mae’n ysglyfaethwr cyfrwys iawn. Mae’n nofio’n araf i gadw ei egni ond cyn gynted ag y bydd yn sylwi ar bysgodyn bach neu môr-lawes, mae ganddo ddigon o egni i wibio yn ei flaen a dal ei ysglyfaeth. Mae siarcod yn anifeiliaid gwaed oer ac felly dydyn nhw ddim yn famaliaid.
Y slefren fôr

Mae slefrod môr (jellyfish) yn greaduriaid rhyfeddol sy’n amrywio’n fawr o ran lliw, gyda lliwiau llachar megis pinc, glas, porffor a melyn. Oeddet ti’n gwybod nad oes gan slefren fôr ddim ymennydd, calon, esgyrn na llygaid? Nid yw slefrod môr yn famaliaid. Mae gan y slefren fôr dentaclau sy’n pigo. Mae hyn yn dychryn ei hysglyfaeth ac yn gadael i’r slefren eu bwyta mewn un cegiad mawr. Mae'r slefren fôr yn gallu defnyddio ei cheg fel llafn dŵr (propeller), ynghyd â’i defnyddio i fwyta bwyd fel crancod, pysgod a phlanhigion bach. Mae’r slefren yn gallu chwistrellu dŵr o’i cheg ac mae hyn yn ei galluogi i symud drwy’r dŵr.
Y llamhidydd

Mae’r llamhidydd (porpoise) yn greadur hardd a swil iawn. Er ei fod yn tyfu’n gyflym, mae’n llawer llai na’r dolffin. Nid oes ganddo ben pigfain ac mae ganddo esgyll trionglog a dannedd miniog iawn. Mamal yw’r llamhidydd. Yn anffodus, mae eu niferoedd yn gostwng am fod pysgotwyr yn gallu eu dal yn ddamweiniol.
Morlo llwyd yr Iwerydd

Morlo llwyd yr Iwerydd yw’r rhywogaeth (species) fwyaf o forloi i ymweld â’n glannau. Mae’r morloi hyn yn eithaf hawdd i’w gweld hefyd, gan eu bod yn byw mewn grwpiau mawr. Maen nhw i’w gweld yn aml yn gorwedd ar y traethau gyda’u rhai bach sy’n wyn fel yr eira, neu’n nofio gan godi eu pennau uwchlaw’r tonnau. Maen nhw’n famaliaid gwaed cynnes sy’n bwydo eu rhai bach â llaeth.
Fideo: Bywyd morlo llwyd yr Iwerydd
Dysga am forloi, eu harferion a chwymp a chynnydd poblogaeth y morloi dros y blynyddoedd.
Morloi
Hela morloi
Ychydig dros 100 mlynedd yn ôl, roedd cnafon creulon oes Fictoria yn arfer hela’r mamaliaid trawiadol hyn am eu cig a lladd y morloi bach am eu crwyn gwyn blewog. O ganlyniad, dim ond 500 o forloi llwyd oedd yn y Deyrnas Unedig gyfan.
Diogelu morloi
Diolch byth, yn 1970 cyflwynodd y Llywodraeth ddeddf newydd a oedd yn gwarchod yr holl forloi yn y dyfroedd o gwmpas Cymru, Lloegr a'r Alban. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anghyfreithlon niweidio, dal neu ladd morloi. Erbyn hyn, mae tua 120,000 o forloi llwyd ar ein glannau.
Gair i gall – Sut i warchod morloi heddiw
Image caption, Os byddi di'n gweld morlo yn gorffwys ar y traeth, mae’n debyg ei fod yn treulio’i fwyd, felly rho ddigon o le iddo a chadwa dy gi yn ddigon pell oddi wrtho.
Image caption, Os wyt ti mewn cwch/caiac neu ar fwrdd padlo a dy fod yn gweld morloi ar y creigiau, cadwa dy bellter.
Image caption, Os byddi’n gweld morlo bychan ar ei ben ei hun, efallai ei fod wedi cael ei adael. Ffonia i gael help.
1 of 3
Morloi bach yn y gaeaf

On'd ydy’r morlo bach yma’n giwt? Mae ei got wen flewog yn ei gadw’n gynnes ac mae’n cael ei fwydo’n rheolaidd gan ei fam, gan roi llawer o faetholion hanfodol iddo.
Oeddet ti’n gwybod?
Ar ôl ychydig wythnosau’n unig, mae’r morlo bach yn colli ei got wen flewog ac mae bellach yn barod i ddysgu nofio. Mae ei fam yn ei adael ar ei ben ei hun ac yn mynd yn ôl i’r môr i fwydo. Mae angen i’r morlo bach fagu’r hyder i fentro i’r môr a chwilio am ei fwyd ei hun. Yn ffodus, maen nhw’n gallu aros o dan y dŵr am hanner awr ar y tro. Yn ystod y cyfnod hwn, maen nhw’n chwilio am bysgod a chrancod blasus. Wyt ti erioed wedi dal dy anadl o dan y dŵr? Pa mor hir wnest ti allu gwneud hyn?
Ffaith ddifyr
Yr enw gwyddonol ar forlo llwyd yr Iwerydd yw Halichoerus grypus. Mae hyn yn golygu mochyn môr trwyn cam.
Cadw ein glannau’n lân
Mae mwy a mwy o wastraff plastig ar ein glannau sy’n fygythiad mawr i’n bywyd morol. Felly, beth am gymryd rhan mewn sesiwn glanhau traeth? Y cyfan sydd ei angen yw bag i gasglu’r sbwriel (bag y gellir ei gompostioWedi’i wneud o ddeunydd sy’n seiliedig ar blanhigion a bydd yn pydru neu’n torri i lawr ar ôl ychydig fisoedd. sydd orau) a phâr o fenig. Casgla unrhyw sbwriel ar y traeth. Yna gwna’n siŵr dy fod yn cael gwared â’r sbwriel yn iawn.

Mae cadw ein glannau’n lân yn bwysig iawn. Mae penawdau brawychus yn y cyfryngau sy’n dangos faint o sbwriel sydd ar ein traethau. Mae bywyd morol yn marw o ganlyniad i hyn, felly os byddi di’n gweld sbwriel ar y traeth ac os yw’n ddiogel gwneud hynny, fe ddylet ei godi. Mae’n wych mwynhau harddwch naturiol y môr a’r traethau. Mae pobl o bob oed yn gallu mwynhau traethau, felly helpa i gadw ein traethau’n ddiogel ac yn lân.
Cwis: Beth yw’r mamal mwyaf sy’n cyrraedd ein traethau?

Ble nesa?
Sut mae rhai anifeiliaid y môr yn llwyddo i osgoi ysglyfaethwyr?
Dysga sut mae anifeiliaid yn defnyddio cuddliw i guddio rhag yr ysglyfaethwyr yn nyfnderoedd y Môr Celtaidd.

Beth yw mudo a pham mae rhai anifeiliaid yn mudo?
Darganfydda pa mor bell mae rhai anifeiliaid yn teithio pan fyddant yn mudo bob blwyddyn.

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Bywyd gwyllt
Find out more by working through a topic
- count1 of 5