Beth yw mudo a pham mae rhai anifeiliaid yn mudo?

Part of CynaliadwyeddBywyd gwyllt

Cyflwyniad

Bob blwyddyn mae miloedd o anifeiliaid yn mudo o un lle i’r llall. Maen nhw’n cael eu gyrru gan reddf naturiol, neu’r angen i oroesi. Ar y tir ac ar y môr mae llawer o anifeiliaid yn ymladd ysglyfaethwyr ac yn cymryd risgiau enfawr er mwyn mudo. Maen nhw’n mudo am bob math o resymau. Mae rhai anifeiliaid yn mudo i chwilio am fwyd a dŵr, mae eraill yn gwneud y daith i ac mae rhai anifeiliaid yn teithio pellteroedd mawr i ddod o hyd i le diogel i , neu i gysgodi ar gyfer y gaeaf.

Gnwod yn ciwio yng Ngwarchodfa Masai Mara, Kenya.
Image caption,
Gnwod yn mudo.

Mae llawer o resymau pam byddai anifail yn mudo, fel:

  • diffyg bwyd
  • osgoi tywydd garw, fel gaeafau oer iawn
  • dod o hyd i ddŵr – efallai fod eu ffynhonnell ddŵr wedi rhewi mewn tymheredd oerach
  • mae eu cynefin yn orlawn
  • dod o hyd i le diogel i roi genedigaeth neu i ddodwy wyau

Mudo o'r Antarctig i Gymru

Map o'r byd gyda Cymru a'r Antarctig wedi'i labelu arno.

Mae rhai anifeiliaid ond yn teithio pellteroedd byr, ond mae eraill yn gallu teithio yn bell. Bob blwyddyn, mae un aderyn anhygoel yn teithio’r holl ffordd o'r i Ynys Môn, gogledd Cymru.

Môr-wenoliaid y gogledd

Efallai fod môr-wennol y gogledd yn edrych yn fach ac yn fregus, ond mae’r adar môr rhyfeddol hyn yn mudo ymhellach nag unrhyw anifail arall ar y blaned.

Môr-wennol y gogledd yn bwydo ei chyw.
Image caption,
Mae môr-wenoliaid y gogledd yn teithio i Gymru bob haf i fagu eu cywion.
Môr-wenoliaid y gogledd yn hedfan ar fachlud haul.
Image caption,
Mae môr-wenoliaid y gogledd yn hedfan yn ddiymdrech.
Môr-wenoliaid y gogledd yn hela am bysgod.
Image caption,
Mae môr-wenoliaid y gogledd yn hela am bysgod yn agos at eu nythfeydd.

Oeddet ti’n gwybod?

Mewn oes o 30 mlynedd, gall un fôr-wennol deithio’r pellter i’r lleuad ac yn ôl dair gwaith.

Crancod hirgoes

Mae crancod hirgoes yn mudo o arfordir Cymru i ddyfroedd dyfnach pob hydref. Pwrpas eu taith yw paru neu fwrw eu cregyn.

Cranc hirgoes ar waelod y môr.
Image caption,
Mae’r cranc hirgoes yn teithio ar draws llawr y môr.
Cranc hirgoes wedi'i olchi i'r lan yn harbwr Porthgain, Sir Benfro, Cymru.
Image caption,
Mae’r anifail rhyfeddol hwn wedi’i orchuddio â chragen galed.
Llun tanddwr o granc hirgoes.
Image caption,
Y cranc hirgoes yw’r cranc mwyaf yn y môr Celtaidd.

Oeddet ti’n gwybod?

Mae’r cranc hirgoes yn teithio dros 170 cilomedr i gyrraedd pen ei daith. Mae hyn yn gallu cymryd hyd at dri mis.

Heulforgwn

Yr heulforgi yw’r ail bysgodyn mwyaf yn y byd. Mae eu llwybrau mudo yn dal yn ddirgelwch. Fe alli di eu gweld nhw oddi ar arfordir Cymru yn ystod misoedd yr haf. Rydyn ni’n gwybod bod y pysgod enfawr hyn yn teithio pellteroedd maith, ond dim ond yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dechrau deall mwy am y teithiau hyn.

Llun tanddwr o heulforgi.
Image caption,
Mae’r pysgod enfawr hyn yn bwydo ar blancton, felly maen nhw’n teithio’n bell i ddod o hyd i gasgliadau mawr o flwmiau plancton.
Heulforgi ger yr arfordir.
Image caption,
Yn ystod ein gaeaf ni mae heulforgwn yn byw mewn dyfroedd trofannol yn agos at y cyhydedd. Yna, wrth i’n dyfroedd gynhesu, maen nhw’n mudo tua’r gogledd i’r Deyrnas Unedig am yr haf.
Golygfa o'r awyr o heulforgi yn nofio yn agos at bobl yn y môr.
Image caption,
Heulforgwn yw’r siarcod mwyaf i ymweld â moroedd y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n gallu tyfu i fod yn wyth metr o hyd ac yn gallu byw am gyn hired â 50 o flynyddoedd.

Oeddet ti’n gwybod?

Mae gwyddonwyr wedi darganfod yn ddiweddar nad yw heulforgwn bob amser yn teithio ar eu pennau eu hunain, weithiau maen nhw’n teithio mewn grwpiau teuluol. Mae'r gwyddonwyr yn meddwl eu bod fwy na thebyg yn dysgu ei gilydd am y llwybrau mudo gorau.

Fideo: Anifeiliaid yn teithio

Darganfydda pam mae rhai anifeiliaid yn teithio mor bell bob blwyddyn.

Cwis: Beth yw mudo a pham mae rhai anifeiliaid yn mudo?

Gweithgaredd

Ar draws y byd mae llawer o wyddonwyr yn astudio effaith cynhesu byd-eang ar batrymau mudo. Sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar fudo a pham mae hyn yn bwysig? Dy dro di yw hi nawr i wneud rhywfaint o ymchwil a chyflwyno dy ganfyddiadau dy hun. Dyma rai erthyglau gyda gwybodaeth i dy helpu di. Clicia ar y dolenni i ddarganfod mwy.

Alli di ddysgu mwy am yr anifeiliaid hyn a’u patrymau mudo? Mae angen i ti greu taflen wybodaeth am un o’r creaduriaid anhygoel hyn. Beth yw’r ffeithiau pwysicaf i’w cynnwys?

Ble nesa?

Beth yw’r anifail mwyaf deallus yn ein cefnfor?

Oeddet ti'n gwybod bod dolffiniaid yn un o'r anifeiliaid mwyaf clyfar ar y Ddaear?

Beth yw’r anifail mwyaf deallus yn ein cefnfor?

Beth sy'n digwydd i blastig yn y môr?

Dysga pa effaith mae gwastraff plastig yn y môr yn ei gael ar fywyd gwyllt.

Beth sy'n digwydd i blastig yn y môr?

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed