
Cyflwyniad
Plancton yw’r enw sydd yn cael ei roi ar glwstwr o fywyd gwyllt bach iawn sy'n byw yn y môr. Er fod yr organebau yma’n fach, mae ganddyn nhw rôl bwysig i’w chwarae yn cadw’n moroedd yn iach.

Yn wir, mae rhai gwyddonwyr yn credu mai’r planhigion a’r anifeiliaid hyn yw rhai o’r rhai pwysicaf yn ein moroedd. Efallai nad ydyn nhw yn edrych mor arbennig â morfilod neu siarcod, ond nhw sydd yn gyfrifol am lawer o’r bwyd rydyn ni yn ei fwyta, a hyd yn oed yr aer rydyn ni yn ei anadlu.
Dŵr tywyll
Mae llawer o bethau byw gwahanol mewn plancton. Grŵp o organebau môr ydyn nhw sydd yn nofio gyda’r cerrynt. Yn aml, maen nhw’n gwneud i’r môr o gwmpas ein harfordir ymddangos yn dywyll.

Os yw’r môr yn dy ymyl di yn edrych ychydig yn wyrdd neu’n frown, mae’n arwydd da ac mae’n golygu bod yna ddigon o blancton yn nofio o gwmpas.
Pa mor fawr yw plancton?
Gan mai clwstwr o wahanol fathau o organebau yw plancton, maen nhw’n amrywio mewn edrychiad a maint. Maen nhw’n gallu bod yn ficrosgopig a mor fach â 2 ficromedr. Mae hyn yn golygu ei bod yn amhosib eu gweld heb ddefnyddio microsgop pwerus. Maen nhw hefyd yn gallu bod yn 20cm o hyd, fel y slefren fôr hon.

Mae gan bob plancton un peth yn gyffredin, sef nad ydyn nhw’n gallu gwthio eu hunain yn eu blaen yn erbyn y cerrynt. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n gallu nofio’n ddigon da i symud yn erbyn y grymoedd yma, felly maen nhw’n symud gyda’r môr.
Mathau o blancton
Mae dau fath o blancton yn ein moroedd - ffytoplancton a swoplancton.
Beth yw ffytoplancton?

Ffytoplancton yw’r math lleiaf o blancton. Maen nhw’n ficrosgopig, sydd yn golygu bod angen microsgop i’w gweld.
Mae ffytoplancton yn cyflawni ffotosynthesis. Mae hyn yn golygu eu bod nhw wedi eu haddasu yn arbennig i droi pelydrau’r haul yn egni sydd ei angen i fyw, yn union fel dail ar goed . Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, mae ffytoplancton yn arnofio yn agos at arwyneb y dŵr.
Beth yw swoplancton?

Anifeiliaid bach yw swoplancton. Maen nhw’n gallu bod yn fach fel ffytoplancton neu maen nhw'n gallu bod ychydig yn fwy. Maen nhw'n bwyta ffytoplancton.
Oeddet ti’n gwybod?
Mae’r crancod hirgoes anferth yma yn cychwyn eu bywyd fel swoplancton bach.

Mae tiwna hefyd yn cychwyn ei fywyd fel swoplancton ac yn gallu tyfu i fod mor fawr ag arth wen.

Blwmiau plancton

Mae plancton yn hel at ei gilydd ac yn ffurfio blŵm plancton (plancton bloom). Mae’r blwmiau hyn yn darparu bwyd i amrywiaeth fawr o rywogaethau (species). Bob haf bydd yr heulforgi (basking shark) yn dod i arfordir Cymru i wledda ar y blwmiau hyn. Mae’r morgwn mawr yma yn teithio gyda’u cegau mawr yn agored er mwyn dal yr holl blancton sydd yn arnofio yn y dŵr.
Pobl a phlancton
Mae gan blancton bŵer amgylcheddol arbennig hefyd. Fel planhigion ar y tir, mae ffytoplancton yn cymryd carbon deuocsid i mewn ac yn cynhyrchu ocsigen. Yn wir, yr organebau bach yma sydd yn darparu hanner yr ocsigen rydyn ni yn ei anadlu.
Fideo: Mae plancton yn hanfodol bwysig i iechyd y cefnfor
Darganfydda pam mae dŵr y môr yn dywyll a dysga am anifeiliaid eraill sy'n bwydo ar blancton yn ein cefnforoedd.
Cwis
Gweithgaredd
Beth wyt ti wedi ei ddysgu am blancton? Defnyddia’r wybodaeth hyn i greu ffeil o ffeithiau. Cofia nodi’r ffeithiau pwysicaf.
Rhestr wirio
- Cofia gynnwys lluniau a disgrifiadau.
- Cyflwyna dy wybodaeth yn glir a chryno.
- Meddylia am dy gynulleidfa. Pwy fydd yn darllen dy ffeil o ffeithiau? Beth maen nhw angen ei wybod?
Pob lwc.

Ble nesa?
Pa anifeiliaid sy’n byw mewn pyllau glan môr?
Oeddet ti'n gwybod bod pyllau creigiau'n llawn bywyd ac yn gartref i lawer o wahanol anifeiliaid?

Beth yw’r mamal mwyaf sy’n cyrraedd ein traethau?
Oeddet ti'n gwybod mai dim ond 500 o forloi oedd yn y Deyrnas Unedig gyfan ychydig dros 100 mlynedd yn ôl?

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed
