Beth yw hinsawdd?

Mae tywydd a hinsawdd yn ddau beth gwahanol. Mae’r tywydd yn gallu newid yn sydyn, ond hinsawdd yw’r math o dywydd sydd mewn ardal dros gyfnod hir o amser.
Mae gan wahanol leoedd dros y byd hinsawdd wahanol - bydd rhai yn cael tywydd oer ac eira, bydd rhai yn gynnes ac yn sych, a bydd rhai yn cael ychydig bach o'r ddau.

Beth yw newid hinsawdd?
Nid yw'r hinsawdd bob amser yn aros yr un peth. Fel arfer mae’n newid yn naturiol ac yn araf ond yn ddiweddar mae wedi bod yn newid yn gyflym iawn.
Mae nwyon rydyn ni'n eu rhyddhau i'r atmosffer yn gallu achosi i'r hinsawdd newid. Pan rydyn ni’n llosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy mae carbon deuocsid - a elwir hefyd yn CO₂ - yn cael ei gynhyrchu. Mae tanwyddau ffosil yn cael eu defnyddio i bweru ceir ac awyrennau, ac i gynhyrchu trydan ar gyfer cartrefi a'r ffatrïoedd sy'n gwneud ein teganau, ein dillad a'n teclynnau electronig.
Pan fydd carbon deuocsid yn mynd i mewn i'r atmosffer mae'n achosi'r effaith tŷ gwydr. Mae'n cadw gwres yn yr atmosffer fel bod y Ddaear yn mynd yn boethach ac yn boethach - yn union fel sy'n digwydd mewn tŷ gwydr. Cynhesu byd-eang yw’r enw ar y cynnydd yn nhymheredd y Ddaear.
Fideo - Newid hinsawdd
Hinsawdd yw sut dywydd sydd mewn ardal dros gyfnod hir - pethau fel tymheredd, gwynt a glaw. Ac weithiau bydd e'n newid. Yn y gorffennol, mae Cymru wedi rhewi ac wedi bod yn boeth iawn ar adegau gwahanol, ond roedd y newid yn araf ac yn naturiol. Ond nawr mae’n newid ar garlam. Mae’r Ddaear yn cynhesu’n gyflymach nac erioed, a chredi di byth - ni sydd ar fai.
Rydyn ni’n defnyddio tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy i gynhesu ein cartrefi, cynhyrchu trydan, a phweru ceir ac awyrennau. Maen nhw'n ddefnyddiol iawn ond mae ’na broblem. Mae llosgi tanwyddau ffosil yn cynhyrchu carbon deuocsid, neu CO₂, sy’n dal gwres yn yr atmosffer a chynhesu’r Ddaear. Dyma'r effaith tŷ gwydr. Ac rydyn ni’n dechrau gweld cynhesu byd-eang ar waith dros y byd.
Mae’r haf mewn llefydd fel Awstralia yn mynd yn boethach ac yn sychach, gan wneud problem tanau gwyllt yn waeth. Rydyn ni’n dechrau gweld mwy o dywydd eithafol yma yng Nghymru hefyd, ac mae llifogydd difrifol yn digwydd yn amlach. Dim rhyfedd bod gwledydd o amgylch y byd yn gwneud mwy i daclo’r broblem.
Un ateb yw defnyddio mwy o egni wedi ei gynhyrchu gan y gwynt, y llanw a’r haul. Mae’r rhain yn adnewyddadwy - fyddan nhw ddim yn dod i ben, ac yn bwysicach fyth, dydyn nhw ddim yn cynhyrchu carbon deuocsid.
Beth yw’r pethau galli di eu gwneud er mwyn ymladd newid hinsawdd? Alli di feddwl am ffyrdd i ddefnyddio llai o egni? Cofia, mae hyd yn oed y pethau lleiaf yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Effeithiau cynhesu byd-eang
Mae cynhesu byd-eang yn gallu effeithio ar y blaned mewn gwahanol ffyrdd.
Mae'n achosi i'r iâ ger Pegwn y Gogledd a Phegwn y De i ddechrau ymdoddi. Bydd hyn yn achosi i lefel y môr godi.
Mae'r tymereddau uwch yn gwneud y tywydd yn fwy eithafol. Mae hyn yn achosi mwy o lifogydd, sychder a stormydd fel corwyntoedd.
Mae Awstralia wedi dioddef tanau gwyllt ffyrnig sy’n gallu para am fisoedd. Mae’r tanau yn gallu ymledu yn gyflym achos y tymereddau uchel iawn a’r sychder. Mae llawer o gartrefi ac ardaloedd mawr o goedwig wedi cael eu dinistrio gan y tanau.
Nid problem mewn gwledydd pell yn unig yw tywydd mwy eithafol - mae’n gallu digwydd yma yng Nghymru hefyd. Mae trefi a phentrefi yn ne Cymru wedi cael eu heffeithio gan law trwm iawn a llifogydd. Fe achosodd y llifogydd ddifrod difrifol i gartrefi a busnesau.
Mae’n bosibl mai Fairbourne, pentref ar arfordir Gwynedd, fydd un o'r cymunedau cyntaf yn y DU i gael ei cholli oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae'n mynd yn anoddach amddiffyn y pentref rhag y môr oherwydd stormydd pwerus a’r ffaith fod lefelau'r môr yn codi.
Egni adnewyddadwy
Mae yna ffyrdd o gynhyrchu egni heb losgi tanwyddau ffosil. Rydyn ni’n cynhyrchu mwy a mwy o egni o ffynonellau adnewyddadwy - rhai sydd ddim yn mynd i ddod i ben. Yn bwysicach fyth, dydyn nhw ddim yn cynhyrchu carbon deuocsid.
Rhai o'r ffynonellau adnewyddadwy mwyaf effeithiol yw:
- egni gwynt - defnyddio pŵer y gwynt i gynhyrchu trydan
- egni solar - defnyddio gwres a golau'r haul fel ffynhonnell pŵer
- egni llanw - defnyddio dŵr sy’n symud oherwydd y llanw i gynhyrchu trydan
Beth allwn ni ei wneud?

Os ydyn ni’n gyfrifol am achosi newid hinsawdd sy'n niweidio ein planed, gallwn ni hefyd fod yn gyfrifol am leihau effeithiau cynhesu byd-eang. Mae yna lawer o bethau y gallwn eu gwneud.
- Defnyddio cerbydau trydan sydd ddim yn creu nwyon niweidiol, yn lle cerbydau petrol a diesel.
- Dysgu pobl am y broblem ac egluro beth gall pob un ohonon ni ei wneud i arbed egni pan fydd cyfle.
- Cynhyrchu mwy o egni adnewyddadwy.

Gweithgareddau
1. Poster newid hinsawdd
Cynllunia boster sy'n dweud wrth bobl am newid hinsawdd a'r niwed mae'n ei wneud i'n planed. Dylai dy boster gynnwys:
- esboniad o beth yw newid hinsawdd
- peryglon newid hinsawdd
- sut i atal newid hinsawdd
2. Cytuno neu anghytuno?
Darllena bob gosodiad a phenderfyna os wyt ti’n cytuno neu'n anghytuno gyda nhw. Cofia esbonio pam rwyt ti’n cytuno neu'n anghytuno trwy roi rhesymau o dy brofiad dy hun ac o'r hyn rwyt ti wedi ei ddysgu.
- Dylai pob car gael ei wahardd.
- Pobl sydd ar fai am newid hinsawdd.
- Bydd defnyddio egni adnewyddadwy yn helpu i achub y blaned.
- Mae tywydd eithafol yn effeithio ar bob un ohonon ni.
3. Cwis: Newid hinsawdd
More on Daearyddiaeth
Find out more by working through a topic
- count6 of 6
- count1 of 6
- count2 of 6
- count3 of 6