Stori Will

Crynodeb o’r ffilm

Mae hi’n ddiwedd gwers wyddoniaeth yn yr ysgol ac mae Wil yn gweld bod arian ym mhoced siaced Jac. Cofia fod ei dad newydd golli ei swydd ac y byddai rhagor o arian yn helpu gyda’r biliau. Cyn gynted ag y mae’n cymryd yr arian, mae’n difaru - beth petai rhywun wedi ei weld yn cymryd yr arian? A ddylai gyfaddef neu guddio a dweud dim?

Nodiadau athrawon

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

  • Gan fod y ffilm yn trafod sefyllfa ariannol teulu Will, mae’n gyfle i fynd dros geirfa sy’n ymwneud â’r pwnc, ee

    • chwyddiant
    • cyflog
    • costau byw
    • dyled

Gallai hyn arwain at weithgaredd sy’n edrych ar gostau byw yn fwy manwl a chymharu prisiau bwyd heddiw a phum mlynedd yn ôl – faint mae’r pris wedi cynyddu ac ati?

  • Balŵn teimladau – Gellir trafod y neges ar ddiwedd y gerdd sef i siarad gyda phobl a’i bod hi’n iawn i gyfaddef a rhannu problemau. Mae’n amlwg bod Will yn ei chael hi’n anodd rhannu ei bryderon ac fel canlyniad yn dwyn arian er mwyn ceisio datrys y broblem.

Fel symbol o deimladau a phryderon yn pentyrru, gellir defnyddio’r balŵn uchod lle gall y disgyblion naill ai ddefnyddio geiriau neu symbolau i gyfleu’r hyn sy’n eu poeni yn yr haenau gwahanol. Fe fydd gan bob disgybl falŵn yr un ar ddiwedd y dasg a gellir eu cyfnewid gyda phartner i rannu eu pryderon ac i roi cyngor i’w gilydd, neu gellir rhestru’r hyn sy’n poeni Will os na fydd athrawon am i ddisgyblion rannu pryderon personol.

  • Mewn grwpiau, gallai disgyblion drafod cwestiynau am onestrwydd. Gellir rhoi cwestiwn i bob grŵp, ee

    • Beth mae ‘bod yn onest’ yn ei olygu?
    • Pam ei bod hi’n bwysig i fod yn onest?
    • Ydyn ni’n gallu ymddiried mewn pobl sy’n dweud celwydd?
    • Pam fod pobl yn dweud celwydd?

Gallai’r disgyblion dreulio pum i 10 munud yn trafod y cwestiwn a chofnodi syniadau, a chylchdroi’r cwestiynau er mwyn rhoi cyfle i bob grŵp ychwanegu syniadau.

  • Jig-so bywyd Will – Gellir annog y disgyblion i ymateb yn greadigol i stori Will drwy greu ‘jig-so’ o’i fywyd. Gallai hyn olygu bod pob aelod o’r grŵp yn creu llun o agwedd ar fywyd Will ar ddarn o jig-so fel yr isod, er mwyn cyfrannu at ddarlun cyflawn o’i fywyd, ee pryderon ariannol adref, bod mewn trwbl yn yr ysgol am ddwyn o bosib a bod yn anhapus adref.

Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:

  • Ysgrifennu ymson – Gellir gofyn i’r disgyblion ysgrifennu ymson ar gyfer cymeriad Will a’u hannog i ddefnyddio:

    • Berfau yn y person cyntaf, ee gwelais, teimlais, gwaeddais
    • Cwestiynau rhethregol, ee Beth galla i ei wneud i helpu Mam a Dad?
    • Defnyddio’r synhwyrau – sut mae Will yn teimlo? Beth mae Will yn ei weld? Beth mae’n ei flasu?

Neu, gallai disgyblion ysgrifennu ymson am ddigwyddiad yn eu bywydau eu hunain a sut wnaeth hyn iddyn nhw deimlo.

  • Cerdd acrostig gan ddefnyddio geiriau megis ‘celwydd’ a ‘gwirionedd’.

  • Sonir yn y gerdd bod Will ddim yn wirion - felly beth yw Will? Gellir creu rhestr mewn grwpiau o nodweddion cymeriad Will. Ar ddiwedd y sesiwn gellir trafod pam fod y plant wedi dewis y nodweddion, ee Mae Will yn feddylgar – pam? Mae’n poeni am ei rieni.

Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm

  • Dysgu am bobl sy’n ofni gadael eraill i lawr
  • Dysgu mwy am wneud dewisiadau doeth
  • Datblygu dealltwriaeth am gyfrifoldebau pobl ifanc o fewn teulu
  • Dysgu am gostau byw a phwysau ariannol ar deuluoedd

Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu adnabod y bydd rhai penderfyniadau rwy’n eu gwneud yn cael effaith hirdymor ar fy mywyd ac ar fywydau pobl eraill.

  • Rwy’n gallu deall y gall penderfyniadau gael eu gwneud yn unigol ac ar y cyd, ac y gall ystod o ffactorau ddylanwadu arnyn nhw.

Maes Dysgu a Phrofiad – Mathemateg a Rhifedd

Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n gallu casglu a threfnu data er mwyn gofyn ac ateb cwestiynau mewn sefyllfaoedd perthnasol.
Back to top

Ble nesa?

Stori Amber. video

Mae trip ysgol yn gwneud i Amber deimlo'n bryderus am sawl rheswm. A fydd hi'n gallu goroesi'r penwythnos a chyrraedd copa'r wal ddringo?

Stori Amber

Stori Deio. video

Ers colli ei fam, mae Deio yn ei chael hi'n anodd bwyta'r bwyd y mae ei nain yn ei baratoi iddo. A fydd Deio'n gallu rhoi'r gorau i fwyta 'bwyd llwyd' a mwynhau'r atgofion o goginio gyda'i fam?

Stori Deio

Stori Fleur. video

Mae'r pwysau i chwarae pêl-droed yn gwasgu ar Fleur ac mae'n penderfynu dianc ar ddiwrnod y twrnamaint. A ddylai hi drafod ei theimladau gyda rhywun?

Stori Fleur
Back to top