TYLER: Bob dydd mae fy mol i'n corddi. Dwi'n teimlo fel y bwystfil. Mae o'n tyfu ac yn tyfu tu fewn i fi, nes yn y diwedd mae o'n byrstio allan a dwi isho brifo pobol fel ma' nhw'n brifo fi.
BARDD: Wyt ti'n teimlo bod neb yn gwrando?
Yn dy hoffi, yn dy ddallt?
TYLER: Dwi mewn trwbwl o hyd ac o hyd. Yn yr ysgol ac adre. Dwi'n siwr na' hynna pam aeth Mam off, achos o'dd Dad a Mam yn ffraeo o hyd. O'n i'n gwbod arna fi o'dd y bai.
BARDD: Weithiau, yng nghanol ein hofnau, ein pryder a'n trafferthion
Daw bwystfil bach o'i guddfan i ddringo ymylon ein ymenydd.
A chnocio yn dragywydd, ffrwydro ar ffurf cledrau'n cau
Cyn diflannu eto.
TYLER: Dwi ddim yn meddwl bod neb yn hoffi fi. Achos os ma' rhywun yn gofyn cwestiwn anodd i ateb, mae'r bwystfil yn byrstio allan ohona i.
BARDD: Mae'r bwystfil ond yn deffro pan mae'r byd yn troi yn ormod
Amser cymryd anadl A siarad hefo dy athro.
TYLER: Mae gen i chwaer fawr. Dydy hi ddim yn licio fi lot chwaith. Ond, chwarae teg, na'th hi ffeindio gwefan. Mae 'na tips arno fo. Be' allwch chi wneud i beidio gwylltio.
BARDD: Paid poeni, mae'n amser siarad
Gyda dy fam neu gyda dy dad
Crybwyll eithafion dy emosiynau
A dy fod wir yn ceisio dy orau i brosesu ond weithiau'n methu.
TYLER: Peth gynta ma' nhw'n deud ydy trio anelu i siarad hefo rhywun am y peth.
BARDD: Un cam ar y tro, felly deuparth gwaith yw dechrau
Felly sycha dy ddagrau.
Crynodeb o’r ffilm
Mae Tyler yn colli ei dymer yn hawdd ac yn cael ei hun mewn i drwbl adref, ac yn yr ysgol. Mae’n beio ei hun am y ffaith fod ei rieni yn dadlau ac yn gwahanu, ac mae’n teimlo fel bwystfil. A fydd Tyler yn penderfynu siarad gyda rhywun i reoli ei dymer a’i emosiynau?
Nodiadau athrawon
Syniadau ar gyfer y dosbarth:
Cardiau hunanofal – Gellir cynnal trafodaeth fel grŵp ar strategaethau hunanofal, ee ‘Beth gallaf wneud pan dwi’n grac?’ a chreu cardiau gyda syniadau ar sut i dawelu’r meddwl gyda’r disgyblion. Gallai hyn gynnwys mynd am dro, siarad gyda rhywun neu redeg yn yr unfan a gellid gofyn i’r disgyblion greu lluniau ar y cardiau neu ddefnyddio geiriau yn unig.
Gêm o gardiau – Drwy dynnu llun wynebau ar un set o gardiau ac ysgrifennu emosiynau ar set arall, gellir gofyn i’r disgyblion gyfateb yr emosiwn gyda’r wyneb. Amrywiad arall fyddai cyfateb un emosiwn gydag emosiwn i’r gwrthwyneb, ee hapus/trist. Gallai hyn arwain at drafodaeth am yr emosiynau a sut mae modd eu cyflawni neu eu gwella.
Gweithgaredd gelf a chrefft – Gellir annog disgyblion i lenwi jar gyda darnau sgleiniog (glitter) neu unrhyw ddeunydd crefft arall, dŵr a hylif golchi llestri i greu jar o deimladau. Wrth ychwanegu’r darnau lliwgar, gellir gofyn i’r disgyblion trafod sut maen nhw’n teimlo ac esbonio bod y gymysgedd o liwiau yn y jar yn cyfleu’r holl deimladau sydd gan bob un.
Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:
- Iaith ac arddull – Gellir dadansoddi’r dechneg o ddefnyddio trosiadau yn y ffilm a’r gerdd, ee “y bwystfil tu fewn i fi”/“daw bwystfil bach o’i guddfan”. Pam fod y bardd yn defnyddio’r bwystfil i gyfleu teimladau Tyler? Gallai hyn arwain at weithgaredd sy’n gofyn i’r disgyblion feddwl am drosiadau/cymariaethau gwahanol i gyfleu eu teimladau eu hunain.
Ceir sawl defnydd o gyflythrennu yn y gerdd hefyd, ee “ffrwydro ar ffyrdd’ a “cledrau’n cau” er mwyn cyfleu teimladau. Gellir gosod tasg o ofyn i ddisgyblion ddyfeisio enghreifftiau eraill o gyflythrennu ar gyfer cymeriad Geth.
Dyddiadur teimladau – Gellid gofyn i’r disgyblion lunio dyddiaduron er mwyn cofnodi eu teimladau. Gallai gynnwys brawddegau megis ‘Pan dwi'n teimlo’n ofnus/nerfus/unig/trist…’ gyda strategaethau i gyd-fynd gyda theimladau.
Ysgrifennu ymson – Gellir gofyn i’r disgyblion ysgrifennu ymson ar gyfer cymeriad Tyler. Mae’r ffilm yn trafod emosiynau Tyler a’r ffaith nad yw’n gallu eu rheoli ar adegau, felly gellir gosod tasg i ddisgyblion ysgrifennu ymson gan eu hannog i ddefnyddio:
- Berfau yn y person cyntaf, ee gwelais, teimlais, gwaeddais
- Cwestiynau rhethregol, ee Pam na allaf i stopio teimlo’n grac/flin?
- Defnyddio’r synhwyrau – sut mae Tyler yn teimlo? Beth mae Tyler yn ei weld? Beth mae’n ei flasu?
Neu, gallai disgyblion ysgrifennu ymson am newid mawr sydd wedi digwydd yn eu bywydau eu hunain a sut wnaeth hyn iddyn nhw deimlo.
Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm
- Dysgu mwy am ddelio gydag emosiynau
- Dysgu am ddatblygu strategaethau i ymdopi gydag emosiynau
- Datblygu ymwybyddiaeth sylfaenol am newidiadau corfforol ac i’r hormonau
Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles
Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.
Cam Cynnydd 3
Rwy’n gallu hunanreoleiddio fy emosiynau mewn ffordd ddiogel gan ddefnyddio strategaethau rwyf wedi eu datblygu.
Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.
Rwy’n gallu gofyn am gymorth gan bobl rwy’n ymddiried ynddyn nhw pan rwyf ei angen.
Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.
Cam Cynnydd 3
- Rwy’n gallu adnabod y bydd rhai penderfyniadau rwy’n eu gwneud yn cael effaith hirdymor ar fy mywyd ac ar fywydau pobl eraill.
Maes Dysgu a Phrofiad – Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.
Cam Cynnydd 2
- Rwy’n gallu cyfleu syniadau, teimladau ac atgofion ar gyfer cynulleidfa ac ar gyfer dibenion a chanlyniadau yn fy ngwaith creadigol.
Ble nesa?
Stori Will. video
Mae Will yn ceisio helpu sefyllfa ariannol ei deulu ac yn penderfynu dwyn arian. A fydd yn difaru gwneud hyn ac yn meddwl am ffyrdd arall o helpu ei rieni?

Stori Amber. video
Mae trip ysgol yn gwneud i Amber deimlo'n bryderus am sawl rheswm. A fydd hi'n gallu goroesi'r penwythnos a chyrraedd copa'r wal ddringo?

Stori Deio. video
Ers colli ei fam, mae Deio yn ei chael hi'n anodd bwyta'r bwyd y mae ei nain yn ei baratoi iddo. A fydd Deio'n gallu rhoi'r gorau i fwyta 'bwyd llwyd' a mwynhau'r atgofion o goginio gyda'i fam?
